Back
Newyddion S4C

Newyddion S4C

@newyddion.s4c.cymru

Y newyddion a’r straeon gorau o Gymru a'r Byd. Os oes gennych chi stori, cysylltwch â’r tîm 💻📱➡️ newyddion@s4c.cymru

41 videos

🚗⛰️ ‘Sa fo’n syniad gwych yn Eryri’ Wrth i broblemau parcio yn Eryri barhau mae un economegydd yn awgrymu y gallai bysiau am ddim wedi'u hariannu gan dreth ymwelwyr leddfu’r broblem

2 3

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Bu’n rhaid i dîm menywod Cymru lanio ar frys yn yr Eidal ar eu ffordd i Montenegro oherwydd storm nos Fercher   Llwyddodd y chwaraewyr i ganfod gwesty, ond roedd yn rhaid i’r rheolwr Rhian Wilkinson a rhai o'r staff hyfforddi gysgu yn y maes awyr

2 1

⚽️❤️ 'Robin ‘di’r rheswm pam bod Sgorio yma'   Teyrnged y sylwebydd Nic Parry i'r cerddor a'r cynhyrchydd teledu, Robin Evans sydd wedi marw’n 72 oed

1 1

'Bydde fe’n siom i sbwylio’r tirlun' Dyma ymateb rhai pobl yn Nhregaron i gynllun newydd i godi fferm wynt ar gyrion y dref

0 0

🚨 ⚡ Gwyliwch y foment y cafodd padlfyrddiwr a'i chi eu hachub oddi ar arfordir Môn gan Fad Achub Moelfre. Fe deithiodd y criw 45 munud drwy ganol storm ar eu ffordd yn ôl i Foelfre.

6 0

'Dydy o jyst ddim yn ddigon' Mae mam i blentyn awtistig o’r gogledd yn galw am fwy o gymorth i deuluoedd sydd â phlant sydd ag anghenion. Bydd Y Byd ar Bedwar: Awtistiaeth fy mab ar S4C nos Lun

0 1

🪑 'Cyfle arbennig i arddangos y ddwy gadair' Mae Cadair Eisteddfod Genedlaethol 1918 yn cael ei harddangos yn Yr Ysgwrn ochr yn ochr â Chadair Ddu enwog Hedd Wyn, wedi iddi ddod i'r amlwg fod y ddwy gadair wedi eu creu gan yr un dylunydd

2 0

❤️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 'Diolch i bawb sydd ‘di bod yn gweithio drosto ni adre' Mae aelodau Cymreig Côr Ffermwyr Hawkstone yn diolch i’r sawl yng Nghymru ar ôl iddyn nhw ennill Britain's Got Talent nos Sadwrn

4 2

‘Mae bywyd yn gyfan yn heriol’ Mewn rhaglen arbennig o Y Byd ar Bedwar, mae Leian Roberts o Benrhyndeudraeth yn dangos realiti bywyd gyda’i mab awtistig, Twm

0 0

☀️ 'Oedd hi'n annibendod, amhosib parcio yn nunlle' Mae pryderon wedi’u codi am or-dwristiaeth mewn rhai rhannau o Gymru, gyda chwynion am sbwriel, diffyg parcio a cham-drin staff gan rai busnesau yn Llangollen. Dyma adroddiad Dafydd Evans.

0 3

🌟🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 'Dan ni'n cynrychioli Cymru' Pob lwc i Aled Griffiths ac aelodau Côr Ffermwyr Hawkstone sydd yn cystadlu yn rownd derfynol Britain’s Got Talent nos Sadwrn

1 0

🎶🏉 Gwlad beirdd...a chantorion? Mewn teyrnged i gyn-chwaraewr Cymru, Merve 'the Swerve' Davies, mae 70 o aelodau Clwb Rygbi Rhydaman wedi gwisgo i fyny fel yr wythwr chwedlonol wrth ganu'r anthem genedlaethol ar eu taith yn Ne Affrica

0 0

⚽️🗣️ 'Y peth pwysicaf ydy bod pobl yn agor allan' Mae tîm pêl-droed o'r gogledd wedi ennill pencampwriaeth iechyd meddwl yn erbyn timau ar draws Prydain.

0 0

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 'Mae’n hanfodol bwysig' Bydd y Llywodraeth newydd yn edrych eto ar ddysgu hanes Cymru mewn ysgolion, meddai’r Gweinidog Addysg

3 3

🎶 'Roedd hi fatha'r West End ym Mryngwran' Ar ddiwrnod olaf Eisteddfod yr Urdd ym Môn, mae arweinydd côr ieuenctid yr ynys, Mari Pritchard, yn edrych yn ôl ar ei magwraeth gerddorol yng nghefn gwlad Cymru

2 0

🧠 ❤️ 'Mae iechyd fy ymennydd yn rhywbeth sydd yn bwysig iawn i mi.' Mae cyn-chwaraewr rygbi proffesiynol o Wynedd wedi cychwyn her o redeg 200 marathon mewn 100 o ddiwrnodau i gefnogi elusennau anafiadau i’r ymennydd.

1 0

Dyma’r foment wnaeth roced ffrwydro yn ystod prawf yn nhalaith Florida yn America Dywedodd cwmni’r roced, Blue Origin a sefydlwyd gan sylfaenydd Amazon, Jeff Bezos, nad oedd unrhyw un wedi’i anafu yn ystod y digwyddiad

1 0

🎶🎤 'Cân wahanol i ganeuon traddodiadol yr Urdd' Mae cân gan Lloyd Lewis a fydd yn croesawu pobl i Eisteddfod yr Urdd yng Nghasnewydd yn 2027 yn 'adlewyrchu amrywiaeth' yr ardal

4 3

'Mae pawb yn ffeindio fe'n anodd i credu rili'   Mae bachgen 13 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi i fachgen 11 oed ddioddef anafiadau difrifol mewn tân mewn clwb rygbi yn Sir Gâr

0 1

‘Ma’ mywyd i gyd yn mynd o amgylch rhifau.’ Mae nifer y bobl sy'n byw â diabetes yng Nghymru yn cynyddu'n gynt na'r disgwyl, yn ôl data diweddaraf y gwasanaeth iechyd

0 0

🎪🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 ‘Bydd e’n neud pobl eisiau siarad Cymraeg’ Gydag Eisteddfod Urdd yn dod i Gasnewydd yn 2027, mae disgyblion Ysgol Bro Teyrnon yn edrych ymlaen at groesawu’r ŵyl i’r ddinas

4 0

🎯🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 'Fi'n gallu 'neud be' ma' pobl ddim yn meddwl bo' fi gallu' Bydd Jonny Clayton yn un o ddau Gymro fydd yn gobeithio codi tlws Uwch Gynghrair y Dartiau nos Iau

2 0

❤️ 'Trio gorau fi bob dydd i Mam' Ymateb emosiynol Ani o Ysgol Heblas ar Ynys Môn ar lwyfan canlyniadau Eisteddfod yr Urdd ar ôl ennill y gystadleuaeth llefaru Bl2 ac iau

2 0

❤️ 'Maethu ydi’r dewis perffaith i fi' A hithau’n Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd ym Môn ddydd Iau, mae’r gomediwraig Kiri Pritchard-McLean yn rhannu ei balchder o weld rhai o’r plant y mae hi wedi’u maethu yn cystadlu ar faes yr ŵyl

5 0

💷 Mae costau teithio a phrisiau cynyddol yn ei gwneud hi'n anodd i rai rhieni fynd i Eisteddfod yr Urdd, yn ôl rhai eisteddfodwyr. Mae'r Urdd yn dweud eu bod yn darparu mynediad am ddim i deuluoedd incwm isel.

0 0

⚡️ 'Does yna ddim lle ar gyfer peilonau’ Mae'r Gweinidog Cabinet dros Ynni wedi mynnu y bydd ei blaid yn cadw at ei hymrwymiad i wrthod caniatâd ar gyfer peilonau dur ar gysylltiadau trydan newydd sydd dan eu rheolaeth nhw.

1 0

‘Nid yw dwrn y Cardi’n dynn’ Ymateb y Cynghorydd Bryan Davies i’r newyddion y bydd Ceredigion yn cynnal Eisteddfod yr Urdd yn 2029, gyda chabinet y cyngor yn cefnogi’r posibilrwydd o wario hyd at £500,000 i groesawu’r ŵyl i’r sir.

1 1

🎪 'Lle diogel a saff i gael amser tawel i ffwrdd o’r prysurdeb' Mae gofod newydd ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni yn cynnig 'man diogel i bobl ifanc ac oedolion ag anableddau dysgu' yn ôl un sydd wedi cael profiad yno

7 1

🤔 Britain's Got Talent neu Eisteddfod yr Urdd? Pa un sy' bwysica' i fois Ysgol Glantaf?

0 1

❤️ 'Ma neud o feddwl gymaint i fi a'r teulu'   Mae Gwenno Beech wedi ennill gwobr Unawd Cerdd Dant sydd er cof am ein nain Leah Owen

0 0

🏉 'Breuddwyd yn dod yn wir' Mae’r chwaraewr rygbi ifanc o Gaernarfon, Caio Parry yn dweud bod arwyddo cytundeb proffesiynol gyda’r Dreigiau wedi gwireddu breuddwyd

5 0

🔑🏠 Oes angen cartref swyddogol ar Brif Weinidog Cymru? Wedi i Rhun ap Iorwerth aros mewn Premier Inn yng Nghaerdydd wedi’r etholiad, mae'r ddadl wedi aildanio

3 0

'Mae o'n bryder.' Roedd Pont y Borth, sy’n cysylltu Ynys Môn a'r tir mawr, wedi cau unwaith eto fore Mercher ar drothwy Eisteddfod yr Urdd

2 0

🐴 'Y peth gorau i wneud oedd stopio fe cyn iddo ymledu ymhellach'   Gydag achosion ar gynnydd, mae pryder am effaith ffliw ceffylau ar sioeau amaethyddol, wrth i un sioe yn Sir Gâr benderfynu peidio â chynnal yr adran geffylau eleni

2 0

Mae elusen yn rhybuddio am brinder gofalwyr maeth yng Nghymru. Mae Angharad Clwyd wedi bod yn maethu gyda'i gŵr Llŷr am 11 o flynyddoedd, ac yn pwysleisio’r pwysigrwydd o gael rhwydwaith i’ch cefnogi

0 0

⚾️ ‘Fi’n rili balch mai fi yw’r unig Cymro o dan 16 sydd ar y garfan’ Mae bachgen 13 oed o Gaerdydd sydd wedi cael ei ddewis yng ngharfan dan-16 Tîm Prydain ar gyfer Pencampwriaethau Softball Ewrop yn galw am fwy o ymwybyddiaeth i'r gamp

1 0

⚽🇮🇹 'Profiad ti ddim yn gallu cael unrhyw le arall' Bydd CPD Llanilltud Fawr yn teithio i Rufain ddydd Sadwrn i chwarae mewn cystadleuaeth unigryw i glybiau amatur Ewrop

3 1

🎶 Stereophonics, Catatonia, Tom Jones - dim ond rhai o'r artistiaid sydd wedi perfformio yn y Ffatri Bop yn y Porth, Cwm Rhondda. Mae'r safle ar werth, ac ymgyrch nawr i'w achub.

1 0

Llanast yn Llundain - momentwm ym Mae Caerdydd Wythnos ers canlyniadau hanesyddol etholiad Senedd Cymru, Richard Wyn Jones sy'n dadansoddi'r sefyllfa wleidyddol yng Nghaerdydd a San Steffan

4 5

📚 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 'Hollol amlwg bod angen addysg Gymraeg' Mae Cyngor Sir Penfro wedi pleidleisio dros gefnogi'r egwyddor o sefydlu ysgol gynradd Gymraeg newydd yn nhref Aberdaugleddau.

2 3

'No it’s not a joke'   Dyma’r foment wnaeth Daniel Morgan yrru JCB mewn i dafarn yng Nghefn Rhigos ym mis Rhagfyr y llynedd   Cafodd ei garcharu am dair blynedd a thri mis yn Llys y Goron Merthyr ddydd Iau wedi iddo bledio'n euog i sawl trosedd

0 0